1 Tair gwragedd a'i gwedd fal gwawn
2 A gafas yn gwbl gyfiawn
3 Pryd cain pan fv'r damwain da
4 A roes duw nef ar Efa
5 kyntaf o'r tair disglairloyw
6 a'i cafas ehudras hoyw
7 Polixena ferch Bria
8 Gwaisc o grair yn gwisgo gra
9 A'r ail fv ddiodennaf
10 Gwiwbryd golevdravl havl haf
11 Trydydd fvn ail Rhvn yrhawg
12 fv Elen feinwen fannawg
13 Yr hon a beris
14 a thrin rhwng Groeg a Throia
15 Pedwaredd ddisymledd serch
16 Y gain eglvrfain glaerferch
17 Yn dywod yn deg ddiseml
18 Nwyf gwyr aur dymwyr i'r deml
19 A llvoedd arni yn edrych
20 [91r] Ar lawr disgleirfawr wawr wych
21 A myfy daeth i'm ofeg
22 Ymofyn pwy ywr dynyn deg
23 chwaer yw hon lonn oleuloer
24 vndad i'r llevad a'r lloer
25 A nith i Des ysplennydd
26 Ai mam oedd wawr ddinam ddydd
27 Ac o wynedd pan eddyw
28 Ac wyr i havl awyr yw
29 Nid gwen gwraig ar a adwaen
30 Nid gwyn calch ar siambr falch faen
31 Nid gwen gwelwdonn anghyfvwch
32 Nid gwyn ewyn llyn na llvwch
33 Nid gwyn pryd dilys disglair
34 Wrth bryd gwyn fy myd myn Mair
35 kyngwystl a wnawn heb gyngor
36 lliw tonn geirw pan feirw ar for
37 Nad byw'r cristion crededyn
38 a gai le bai ar liw bvn
39 [91v] Onid ei bod yn glodgamp
40 Duw'n fach yn loywach nâ'r lamp
41 Na fid rhyfedd gan gymro
42 Alw bvn o'r eiliw y bo
43 Poed â'r gyllell hirbell hon
44 Y cordder gwal ei chalon
45 Ai cymmeri yn hyfryd
46 a maddeu bvn meddv byd
47 po mwyaf fo fynghyfoeth
48 Am canmawl cynhwynawl coeth
49 fwyfwy y clwyfai ar naid
50 Kof ynof cyfyw fenaid
51 Pa les i minne wyrda
52 maddeu'r dyn a meddv'r da
53 Nid oes obaith goleuni
54 Ir dyn a fo hyn nâ hi